Dyddiad | Date: 30 Awst 2017

Pwnc | Subject: Y Bil Awtistiaeth (Cymru)

 

Annwyl Gyfaill,

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno y gallaf gyflwyno cynigion ar gyfer deddf newydd yng Nghymru, sef y Bil Awtistiaeth (Cymru).

Fel Aelod unigol, rhaid i mi gyflwyno Bil sy’n bodloni’r amcanion polisi a nodir mewn memorandwm esboniadol sy’n cyd-fynd â’r cynnig erbyn 13 Gorffennaf 2018. Yna creffir yn fanwl ar y Bil gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynghylch a ddylai’r Bil ddod yn gyfraith. Os caiff ei basio, bydd y Bil yn dod yn Ddeddf Awtistiaeth (Cymru).

Rwyf bellach yn ymgynghori mor eang â phosibl er mwyn penderfynu beth y dylid ei gynnwys yn y Bil, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech roi o’ch amser i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn.

Diben y Bil fydd gwneud darpariaeth ar gyfer diwallu anghenion plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth yng Nghymru. Byddai’r Bil hefyd yn rhoi hunaniaeth statudol ei hun i awtistiaeth.

Yn benodol, yr wyf yn bwriadu y byddai’r Bil Awtistiaeth (Cymru) yn ceisio:

- ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth ar gyfer diwallu anghenion plant ac oedolion yng Nghymru sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth;

- ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau statudol yn sail i’r strategaeth;

- sicrhau llwybr clir a chyson at ddiagnosis o gyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth ym mhob ardal leol ledled Cymru;

- sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn deall ac yn cymryd y camau angenrheidiol er mwyn i blant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig gael y gefnogaeth amserol sydd ei hangen arnynt (gallai hyn gynnwys, er enghraifft, rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i drefnu cefnogaeth i bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd yn eu hardaloedd lleol);

- sefydlu arferion, gan gynnwys y posibilrwydd o greu cofrestr, i hwyluso’r gwaith o gasglu gwybodaeth ddibynadwy a pherthnasol am nifer y plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth, a’u hanghenion, fel y gall cyrff lleol cyfrifol gynllunio yn unol â hynny;

- ei gwneud yn ofynnol i staff allweddol sy’n gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth gael hyfforddiant ynghylch awtistiaeth;

- sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn cyhoeddi gwybodaeth am y gwasanaethau y maent yn eu darparu i bobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth yn eu hardaloedd;

- adolygu’r strategaeth a’r canllawiau statudol yn rheolaidd er mwyn sicrhau cynnydd;

- hybu dealltwriaeth y cyhoedd o anghenion plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth; a

- sicrhau bod oedolion awtistig a rhieni/gofalwyr plant awtistig yn rhan o’r broses o ddatblygu ac adolygu strategaeth a chanllawiau statudol ynghylch awtistiaeth.

Rwyf am roi cyfle i bawb y gallai’r Bil effeithio arnynt, neu bawb sydd â barn i’w lleisio neu arbenigedd i’w gyfrannu, ddylanwadu ar ei gynnwys.

Ar ôl imi ystyried eich ymateb, rwy’n bwriadu rhoi cyfle arall i bobl wneud sylwadau drwy gynnal ymgynghoriad ar Fil drafft. Byddaf wedyn yn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cyflwyno’r Bil gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r ddogfen atodedig yn rhoi rhagor o wybodaeth gefndirol am fy nghynigion ac mae’n gofyn nifer o gwestiynau am sut y dylai’r Bil ymdrin â’r materion y credaf fodangen mynd i’r afael â nhw.

Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech gymryd rhywfaint o amser i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn, ac imi gael gwybod eich barn chi, neu farn eich sefydliad, ar y Bil a’r hyn y mae’n ceisio ei gyflawni.  Edrychaf ymlaen at gael unrhyw sylwadau yr ydych am eu gwneud erbyn 20 Tachwedd 2017.

Mae’n bosibl y caiff gwybodaeth a ddarperir gennych ei defnyddio gennyf i, gan Aelodau eraill y Cynulliad, gan staff cymorth neu gan staff Comisiwn y Cynulliad at ddibenion datblygu’r Bil, hyrwyddo’r effaith y bwriedir i’r Bil ei chael, a gwaith craffu dilynol ar y Bil.

Mae’n bosibl y caiff eich enw, eich manylion cyswllt (os ydych yn ymateb yn eich rôl broffesiynol) a’ch ymateb llawn eu cyhoeddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mewn cyhoeddiadau neu ddeunydd hysbysebu sy’n dilyn. Mae’n rhaid i chi wneud yn glir yn eich ymateb os ydych am i’r wybodaeth hon fod yn ddienw.

Efallai y defnyddir eich manylion cyswllt eto os bydd cyfleoedd eraill yn codi i ymgysylltu â’r gwaith o ddatblygu’r Bil neu graffu arno. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, cysylltwch ag: Ymgynghoriad.BilAwtistiaeth@cynulliad.cymru

I weld rhagor o wybodaeth am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, gweler polisi preifatrwydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rwy’n croesawu ymatebion yn Gymraeg a Saesneg. Gofynnaf i sefydliadau sydd â pholisïau neu gynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Rwyf hefyd yn cyhoeddi’r ymgynghoriad hwn yn ddwyieithog mewn fformat Hawdd ei Ddeall.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses Bil Aelod ar gael ar y dudalen Biliau Aelodau.

Diolch ichi am roi o’ch amser.

Yn gywir,

 

Paul Davies
Aelod Cynulliad dros Breseli Sir Benfro

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.